Ceisio rhoi llafar i brofiada Trwy gymhariaethau a throsiada Ond sut fedra i rannu fy nheimlada Os dwi'n teimlo dim yn y lle cynta Ma'r gân yn wahanol Ond mond yn gerddorol Ailgylchu syniadau Aileirio storiau A gafodd eu hadrodd ganrifoedd yn ôl Ma'r gân yn wahanol Ond dio'm yn ddiddorol Aileirio storiau hên Dwi'm yn disgwyl chi wrando, na chlapio, na sefyll yn y blaen Dim cymeradwyaeth, canmoliaeth, na, neb yn canu 'mlaen Sgenai'm diawl o hawl i gwyno, sgenai'm byd o bwys i ddweud Mond geiriau gwag am hunnan barch a dihidrwydd Rhyw gân anangerddol Gan ddyn sy'n galw ei hun yn gerddor Aberthu ei enaid i werthu CDs Gan ganu rhyw eiriau sy'n meddwl dim byd Tydi hyn 'im yn hawdd Na, tydi hyn 'im yn hawdd Sgenai ddim y ddawn i blesio pawb