Kishore Kumar Hits

I Fight Lions - Dy Dalent Ar Waith şarkı sözleri

Sanatçı: I Fight Lions

albüm: I Fight Lions


Ma'r geiria'n llifo oddi ar dy dafod di heb saib na chamgymeriad
Tra dwi'n baglu dros frawddegau
Heb, heb syniad be, be dwi, dwi 'fod i ddeud nesa
Oh, oh oh oh oh – Be 'di'r gyfrinach, be wti'n guddiad?
Oh, oh oh oh oh – Pawb dan gyfaredd, pob brawddeg yn ddengar
Wti ar dân
Ti'n llyfn ac yn ffraeth, 'di meistrioli dy iaith
Wti ar dân
Ti'n swyno'r ystafell, dy dalent ar waith
Wti ar dân
Pob awgrym yn bwyllog, dwi'n synnu ar yr effaith
Caiff araith byrfyfyr bach berffaith
Dy dalent di ar waith
Ti'n cynhyrfu'n lan wrth roi dy fysedd
Yn y tan heb bryderu dim am berygl y fflam
Ti'n chwilfrydig, pob gair yn wefredig, pob cip yn bryfoclyd
Oh, oh oh oh oh – Be 'di'r gyfrinach, be wti'n guddiad?
Oh, oh oh oh oh – Pawb dan gyfaredd, pob brawddeg yn ddengar
Ma clwydda pur yn swnio'n wir
Drwy dy wefusa di
Ti'n slic ac yn cwic ac yn dangos dy dricia
Difaru dim byd, diferu carisma
Ti'n grefftus a'n gyfrwys yn dewis dy eiria
Dy gwmni yn aur a dy dafod yn arian

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar