Kishore Kumar Hits

I Fight Lions - Storm şarkı sözleri

Sanatçı: I Fight Lions

albüm: I Fight Lions


Does na'm byd yn y byd o bwys
Mai'n dawel braf yn nghanol y storm
Dwi ddim am boeni am ddryswch llwyr
Dim fi sydd wrth y llyw
Mae'r tarannau yn bloeddio'n y nen
Fel rhuo llewod yn bell uwchben
Mae Morus y gwynt ac Ifan y glaw
Yn chwil ar y gwasgedd isel
Mae'r byd yn ddychrynllyd ar hyn o bryd
Ond mae'r helynt 'ma'n gysur o fy ngwely clyd
Sgenai'm mymryn o bryder; mewn cysur mae hyder
Dwi'n gyfarwydd 'fo'r hunllef o hyd
Mae'r newydd yn hen erbyn hyn
Neith arwyr flodeuo ymysg y chwyn
Mae'r gwynt a'r glaw yn siwr o ddod yn pen draw
Ond mae'r haul yn anorfod hefyd
Does na'm byd yn y byd o bwys
Mai'n dawel braf yn nghanol y storm
Dwi ddim am boeni am ddryswch llwyr
Dim fi sydd wrth y llyw
Anghydfod y tonnau sy'n bygwth
Ceffylau mawr gwyn ar garlam rhwth
Ond mae 'na ddigon o dîr rhwng y llanw a fi
Does na'm galw am gynnwrf na stŵr
Cau dy lygaid yn dynn
A gad dy feddylia suddo'n ddyfn
Ma'r glaw ar y gwydr yn siffrwd o gysur
Dwi'n gyfarwydd fo'r freuddwyd o hyd
Mae'r newydd yn hen erbyn hyn
Neith arwyr flodeuo ymysg y chwyn
Mae'r gwynt a'r glaw yn siwr o ddod yn pen draw
Ond mae'r haul yn anorfod hefyd

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar