Hen ddyn mewn tafarn Digon parod i rannu ei farn Ar ôl drinc neu dri, ei dafod yn llithrig Yn baglu trwy rhyw ddarlith chwithig "O dwi'n hiraethu Am y dyddia aur a fu Pan oedd bandia ddim yn benwan Ond cantorion 'fo rhywbeth call i ddeud Rwan mae pawb yn ddistaw, pawb yn chwara' hi'n saff Does neb yn gwneud dim i ddatod y cwlwm dolen yn y rhaff O mae pawb yn ddistaw, pawb yn chwara' hi'n saff A ma' popeth yn newid pan ma popeth yn aros 'r'un fath" Hen ddyn dal i fynd Yn llyncu gwaelodion ei chweched peint Ei fraich rownd fy 'sgwydda, ei wynt yn fy ngwyneb Mae fy nadl yn disgyn ar glustiau byddar "Gwranda, ti rhy ifanc i gofio Yr amser pan oedd cynulleidfaoedd Yn canu 'mlaen i ganeuon Gan gantorion 'fo rhywbeth call i ddeud Ma' pawb yn swnian, ma' pawb yn swnian fod pawb yn swnio r'un fath Ond ella, ella trwy glustiau gwell gall glywed y gwall yn y ddadl 'ma Paid beio busnesa am ladd unrhyw gath Nid chwilfrydedd nath ond diflastod tra bod popeth yn aros r'un fath