Y llwch ar yr aelwyd Yn gorchuddio y lluniau di-liw Daliwyd profiadau, eiliadau a fu Lle bu chwerthin â chyfeillion triw Mae'r gwir yn treiddio i'r cof Nid yw'r hen wên gyfarwydd fyth am ddod yn ôl O ma 'na rywbeth o'i le Y gwacter yn y gadair, yr oerni lle roedd gwres 'Di'r lle ma ddim 'r'un fath Unwaith yn gartref clyd, nawr yn gragen wag 'Di'r lle ma ddim 'r'un fath Hebdda chdi Llyfrau nodiadau Llawn caneuon heb eu cwblhau Y llenni ar gau, ond mae mymryn o haul Yn taflu golau 'r y llwch yn yr aer Mae'r gwir yn treiddio i'r cof Yn d'absenoldeb, dim ond yr atgof sydd ar ôl O ma 'na rywbeth o'i le Y gwacter yn y gadair, yr oerni lle roedd gwres 'Di'r lle ma ddim 'r'un fath Unwaith yn gartref clyd, nawr yn gragen wag 'Di'r lle ma ddim 'r'un fath Hebdda chdi ♪ Mae'r gwir yn treiddio'n ddyfn i'r cof Nid yw'r hen wên gyfarwydd fyth am ddod yn ôl Mae'r gwir yn treiddio'n ddyfn i'r cof Yn d'absenoldeb, dim ond yr atgof sydd ar ôl