Dros dair mil o filltiroedd I'r gorllewin gwyllt Mae'r dyn dros yr Iwerydd yn mwytho'r glicied gyda'i fys A draw draw yn y dwyrain Ma na derfysg yn y dŵr Ond ar stepan drws dy dŷ di, ma petha 'run mor ddrwg O jysd anadla'n ddyfn Jysd anadla'n ddyfn Gafal'n dyn a phaid â gadael fynd Ma pawb yn mynd yn wallgof ar y cyd Ella bo'i'n ddiwedd y byd Ond cariad, dydw i'n poeni dim Cyn belled â rwyt ti 'fo fi'n fan hyn Lle does na'm helynt i'n hanafu ni Y tarannau a'r tân mond yn si Ar y gorwel, ti'n ddiogel Cyn belled â dy fod di'n fy mreichia i 'Di newyn 'rioed 'di newid Ond mae tewdra'n lladd mwy fyth Felly cyfra'r caloriau, cadwa'r sos coch off dy jips 'Sa neb 'sio mynd yn hen Ond ma pawb 'sio byw am byth Marw'n ifanc ac yn enwog, dim ond i gyflawni'r wyrth Jysd anadla'n ddyfn Jysd anadla'n ddyfn Gafal'n dyn a phaid a gadael fynd Ma pawb yn mynd yn wallgof ar y cyd Ella bo'i'n ddiwedd y byd Ond cariad, dydw i'n poeni dim Cyn belled â rwyt ti 'fo fi'n fan hyn Lle does na'm helynt i'n hanafu ni Y tarannau a'r tân mond yn sî Ar y gorwel, ti'n ddiogel Cyn belled â dy fod di'n fy mreichia i Carchar i'r caethyddion druan Dyna'r tâl am fod yn sâl Ac afiechydon gaiff y meddwon Paid cymryd dim yn ganiataol O tydwi ddim yn dda ar hyn o bryd Y gwir 'di, dwi heb fod ers hir Ma pawb yn mynd yn wallgof ar y cyd Ella bo'i'n ddiwedd y byd Ond cariad, dydw i'n poeni dim Cyn belled â rwyt ti 'fo fi'n fan hyn Lle does na'm helynt i'n hanafu ni Y tarannau a'r tân mond yn sî Ar y gorwel, dwi'n ddiogel Cyn belled â mod i'n dy freichia di