Kishore Kumar Hits

I Fight Lions - Tynnu ar y Tennyn (Acwstig) şarkı sözleri

Sanatçı: I Fight Lions

albüm: Diwedd y Byd


Ti'm yn gaeth i'r dystiolaeth, na, ti'n rhydd
Paid cwestiynu'r hyn ti'n gredu
Pwy benderfynodd mai gwyddoniaeth ydi'r gwir?
Mae'r ddealltwriaeth dal i ledu
Paid cymhlethu'r gred
Ti'n tynnu ar y tennyn er mwyn gweld tu ôl i'r llen
Mond i ddarganfod bod y dyn mawr 'mond yn llais bach yn dy ben
A phan ddaw y darganfyddiad, pan ddaw'r gwir i olau'r dydd
Ddewisi di y ffaith ta'r ffydd?
Creda'n gryf gyda dy galon fawr i gyd
A fydd na'm dadla am yr ateb
Mae popeth yna'n blaen, yn glimr ewn du a gwyn
O does na'm graddiant llwyd na lliwgar
Pwy a ŵyr pwy wnaeth y ser uwchben
Pwy a ŵyr pwy fysa'n sgwennu'r ffasiwn ffuglen
Creda'n gryf gyda dy galon fawr i gyd
Arwydd o wendid yw ansicrwydd
Paid cymhlethu'r gred
Ti'n tynnu ar y tennyn er mwyn gweld tu ôl i'r llen
Mond i ddarganfod bod y dyn mawr 'mond yn llais bach yn dy ben
A phan ddaw y darganfyddiad, pan ddaw'r gwir i olau'r dydd
Ddewisi di y ffaith ta'r ffydd?
Ti'n tynnu 'ry tennyn
Mae'r fflamau'n dwysáu
Ond wrth i ti losgi
'Di'r ffydd yn cryfhau?
Wyt ti dal i gredu?
Wyt ti dal yn siŵr?
Ta oes 'na amheuaeth
Am dy dda a dy ddrwg

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar