Deryn du, paid a meiddio canu'r alaw sgwennas di, Ma'n torri nghalon i. Heda nawr, dos i ffeindio'r mannau ble mae pob dim dal yn iawn Ac yna cadwa sedd i mi, Cyn gynted a'r modd fyddai yno yn eistedd ar dy gri A gawn ni wenu am hyn Daw dyddia, o gyfri'r Oria, Dora dy wen i mi fan hyn O'r gynta, hyd at y dwytha, dora dy wen i mi Paid a troi dy gefn, er fod yr eiliada'n teimlo'n mor ddi-drefn, Di'r siwrna byth ar ben Er agosau, ma'r byd yn dal i symud pan mae'r ffyrdd i gyd ar gau A phan ddaw'r awr i dorri'n rhydd, Cyn gynted a'r modd fyddai nôl yn dy gwmni, ar dy gri A gawn ni wenu am hyn Daw dyddia, o gyfri'r Oria, Dora dy wen i mi fan hyn O'r gynta, hyd at y dwytha, dora dy wen a gawn ni wenu am hyn Daw dyddia mwy clen, dora dy wen i mi Deryn Du, rwan gei di ganu'r alaw sgwennais di, i godi nghalon i Deryn Du, dos i ledu'r neges fod pob dim am fod yn iawn A gawn ni wenu am hyn! Daw dyddia, o gyfri'r Oria, Dora dy wen i mi fan hyn O'r gynta, hyd at y dwytha, dora dy wen a gawn ni wenu am hyn Daw dyddia mwy clen, dora dy wen i mi fan hyn Daw dyddia mwy clen, dora dy wen i mi