Kishore Kumar Hits

Sŵnami - Be Bynnag Fydd şarkı sözleri

Sanatçı: Sŵnami

albüm: Swnamii


Dwi'n drysu, dan swyn rhyw gysgod oer
Sy'n flanced rownd fy myd di-liw
Ond dwi'n crynu, yn dawel llyncu poer
Cyn agor, i ddatgelu'r briw
Ga i esbonio?
Nei di wrando?
Ga i esbonio?
Nei di wrando?
Y geiria', wedi'w hen baratoi
Yn llifo allan bob yn un
A dwi'n plygu, yn barod i ymroi
I ddangos bob un rhan o'n hun
Ga i esbonio?
Nei di wrando?
Ga i esbonio?
Nei di wrando?
Dyma'r gwir, ar ddiwedd y dydd
Dwi'n sownd yn y canol
Rhwng dwy lan, ond heb ddeall pam
Yn perthyn i ddim
Ga i esbonio? (Be bynnag sydd, be bynnag fydd)
Nei di wrando? ('Sdim rhaid mi guddio oddi wrth y gwir)
Ga i esbonio? (Be bynnag sydd, be bynnag fydd)
Nei di wrando? ('Sdim rhaid mi guddio oddi wrth y byd)
(Beth bynnag)
Oddi wrth y gwir
(Oddi wrth y byd)
Rhaid ti addo, paid cael dy lusgo mewn
Paid a gadael i mi fod yn faich
Os dwi'n methu, yn baglu ar y daith
Gei di ddal ar ddoe, caria 'mlaen for sioe
Dyna'r gwir, ar ddiwedd y dydd
Dwi'n sownd yn y canol
Rhwng dwy lan, ond heb ddeall pam
Yn perthyn i ddim
Ga i esbonio? (Be bynnag sydd, be bynnag fydd)
Nei di wrando? ('Sdim rhaid mi guddio oddi wrth y byd)
Ga i esbonio? (Be bynnag sydd, be bynnag fydd)
Nei di wrando? ('Sdim rhaid mi guddio oddi wrth y byd)
(Beth bynnag)
Oddi wrth y byd
Oddi wrth y byd
(Be bynnag sydd, be bynnag fydd)
('Sdim rhaid ti guddio oddi wrth y byd)
(Be bynnag sydd, be bynnag fydd)
('Sdim rhaid ti guddio oddi wrth y byd)
Be bynnag sydd, be bynnag fydd
'Sdim rhaid ti guddio oddi wrth y byd
Be bynnag sydd, be bynnag fydd
'Sdim rhaid mi guddio oddi wrth y gwir

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar