Kishore Kumar Hits

Tystion - Gwyddbwyll şarkı sözleri

Sanatçı: Tystion

albüm: Rhaid i Rywbeth Ddigwydd


Ma' nhw'n dweud fod ni'n mynd dan eich croen
Ond sai'n disgwyl i chi ddeall am be dwi'n sôn
Os na chi'n dod o lle dwi'n dod
Dwi byth yn deall defaid y gorlan
Da' ni'n cymryd pethau i ddwylo ein hunain
Curiad sy'n galetach na' haearn
Dwi'n aros ar y tu allan
'Sdim cyfiawnder chwaith ar scales y glorian
Da' ni'n dod i dalu'r pwyth yn fuan
Mae fy meddwl ar dân
Pan dwi'n sefyll mewn torf
A dwi dal yn teimlo ar wahân
Allai'm diodde'r twyll
Teimlo fel darn mewn gêm o wyddbwyll
Allai'm diodde'r twyll
Teimlo fel darn mewn gêm o wyddbwyll
Allai'm diodde'r twyll
Teimlo fel darn mewn gêm o wyddbwyll
Allai'm diodde'r twyll
Teimlo fel darn mewn gêm o wyddbwyll
Realiti fi yn wahanol i ti
Gormod o amser yn cicio'r sodle
Ma' rhywbeth yn ogle
Ma' na biwbs yn sinjo ar y carped oren
I fyny staer
Hi di merch y maer
A dwisho sbio ar y bobl yn symud fel morgrug
Mewn ac allan o'r siopau
A'r strydoedd a'u bywydoedd bach rhyfedd
Mae nhw'n symud fel pryfed
A dwisho ymuno â'r hwyl
Dwi'n symud a porthi
Dwi'n ddiog a gwarthu
Dwi'n llonydd yn astudio y gofod
Yn pigo fy mhlorod
Mam bach dim mwy o bwdin
Dwi'n sâl, dwi'n chwysu
A dwi isho chwydu
A syllu am oriau ar yr awyr a'r sêr
Yn y cwmwl, ma' mhen i'n flêr
Llusgo nodiadau, y llyfr cyfeiriadau
O dafarn i dafarn trio cofio y ffeithiau
Dwi'n cyfro y creithiau sy'n effeithio'r cemegau
Pan ti lawr ar adegau
Yn dobio arwynebau
Allai ddim diodde'r twyll
Jyst teimlo fel darn mewn gêm o wyddbwyll
Allai ddim diodde'r twyll
Jyst teimlo fel darn mewn gêm o wyddbwyll
Allai ddim diodde'r twyll
Jyst teimlo fel darn mewn gêm o wyddbwyll
Allai ddim diodde'r twyll
Jyst teimlo fel darn mewn gêm o wyddbwyll
Dwi'n chwilio am batrymau o flaen fy mhen
Wrth i mi orwedd ar fy nghefn a syllu fry yn y nen
A weithiau dwi'n meddwl pam fy mod i'n benwan?
Mae 'na man
Pam, be sy'n bod?
Beth arall wyt ti moyn i fi fod?
Pwy ddiawl wyt ti i ddweud wrtha i
Fy mod i ddim yn haeddu dim o'r clôd?
Allai'm diodde'r twyll
Teimlo fel darn mewn gêm o wyddbwyll
Allai'm diodde'r twyll
Teimlo fel darn mewn gêm o wyddbwyll
Allai'm diodde'r twyll
Teimlo fel darn mewn gêm o wyddbwyll
Allai'm diodde'r twyll
Teimlo fel darn mewn gêm o wyddbwyll
Rhwng fy ngwddf mae nhw'n ceisio clymu'r rhaff
Dros fy nghrogi nai byth byth chwarae'n saff
Os newn nhw drio fy ninistrio
Rhaid iddyn nhw gyntaf geisio fy ffeindio
Fyddai byth yn cuddio
Achos dwi byth yn aros yn yr un lle
Yng nghanol nos dwi'n teithio ar hyd lonydd cefn
Byth yn stopio
Pan dwi'n marw dwi eisiau mynd i'r uffern
Dwi ddim eisiau mynd i'r nefoedd
Llawn angylion bach yn eu gwisgoedd gwyn

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar