Kishore Kumar Hits

Llwybr Llaethog - Fydd Y Chwyldro Ddim Ar Y Teledu Gyfaill şarkı sözleri

Sanatçı: Llwybr Llaethog

albüm: Hip-Dub Reggae-Hop 1985-2000


Fydd dim modd i chdi aros adra gyfaill,
Fydd dim modd i chdi diwnio mewn,
Troi ffwrdd, nag aros ar y ffens,
Fydd dim modd i chdi ymgolli mewn lager frenzy a phicio allan am banad yn ystod yr hysbysebion
Achos fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill.
Cheiff y chwyldro mo'i ddangos ar S4C gyfaill,
Dim hyd yn oed wsnos ar ôl iddo ymddangos ar Sianel 4
Hefo cyflwyniad gan Melvyn Bragg.
Fydd y chwyldro ddim yn cael ei noddi gan y Cyngor Celfyddyda'
Na'i gyflwyno gan Wasg Gregynog mewn rhwymiad arbennig o groen aardvark anorecsig.
Fydd y chwyldro ddim yn dangos llunia' o Neil Kinnock yn canu pennill fwyn i'w nain
Ac yn arwain y lemming ffyddloniaid yn erbyn pwerau'r fall a phwerau disgyrchiant.
Cheiff y chwyldro mo'i ddangos ar y teledu gyfaill.
Fydd y chwyldro ddim yn cael ei gyflwyno ar ôl y pwdin 'Dolig gan Ffilm Cymru
Mewn cydweithrediad ag o leia' tri chwmni Ewropeaidd,
Fydd Dafydd Hywal na John Ogwen ddim yn y prif ranna'
Na Bryn Fôn fel Che Guevara yn mynd i'r capal mewn Levi's
Ac yn gwisgo beret yn set fawr, chwaith.
Fydd y chwyldro ddim yn helpu chdi swsho'n well,
Fydd y chwyldro ddim yn clirio plorod,
Fydd y chwyldro ddim yn g'neud i chdi edrach hannar stôn yn 'sgafnach
Achos fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill.
Fydd 'na ddim llunia' ohonat ti a Sulwyn Thomas yn gwthio troli siopa trw' ffenast
Woolworth
Ac yn stwffio teledu lliw i gefn y car heddlu da chi newydd 'i ddwyn.
Fydd Dewi Llwyd ddim yn gallu amcangyfrif fod y canlyniad terfynol am bum mund i
Naw ar ei ben
Ar sail "adroddiadau ein gohebydd arbennig".
Fydd Angharad Mair ddim yn gallu rhoi recipe ar gyfer lobsgows efo dau soffa
Na mynd yn fyw at Glynnog yng nglwb fferets Cwmllynfell.
Fydd na ddim llunia' o'r slobs yn colbio pobl LA na phobl Brynsiencyn.
Fydd neb yn gofyn: "Da chi newydd golli eich unig ferch - Sut da chi'n teimlo?"
Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill.
Fydd 'na ddim llunia' lloeren o Hywel Gwynfryn yn cerddad trw' Drelai, Penrhys, Glyncoch,
Sgubor Goch, na Maesgeirchan mewn siwt loncian coch, gwyn a gwyrdd Mistar Urdd y bu'n
Cadw 'nôl ar gyfer achlysur arbennig fel hon.
Bydd safon iaith, Stondin Sulwyn ac amseroedd darlledu Dechrau Canu Dechrau Canmol
Yn p'idio â bod mor ddiflas o hollbwysig
A bydd neb yn becso os fydd Magi wedi ffeirio Tush am Ford Fiesta a gwerthu'r Post
I'w ailddatblygu fel ffatri Anthrax ar Pobol y Cwm
Achos fydd pobol pob cwm allan ar y strydoedd yn ceisio gwell yfory.
Bydd yr Heddlu Iaith a'r Securetate Camdreiglo yn ca'l 'u cloi i fyny hefo llond
Stafall o fwncwns arall sydd â gorfod 'u gwylio nhw yn trio ailgreu gwaith Alan Llwyd
Efo teipiadur a pheiriant cynghaneddu.
Fydd 'na ddim pigion ar Post Prynhawn na Wales at Six am gampau diweddaraf Bwrdd
Iaith, cadeiriau iaith, nac unrhyw ddodrefnyn amherthnasol arall o'r un casgliad sydd
Byth yn clasho hefo dim byd glas.
Fydd y gerddoriaeth ar gyfer y chwyldro ddim yn ca'l 'i chyfansoddi gan Huw Chiswell
Na Chas and Dave, na'i chanu gan Margaret Williams, Dennis O'Neill na Wyn Roberts
A'i Crypt Kicker 5,
Ond mi fydd hi'n cael ei chyhoeddi ar label Ankst.
Fydd y chwyldro ddim yn ôl ar ôl yr egwyl,
Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill.
Fydd y chwyldro ddim yn ail-ddarllediad,
Fydd y chwyldro ddim yn ail-ddarllediad, cyfieithiad nac addasiad o syniad gwael
A aeth i fin sbwriel teledu Thames tua 1973.
Fydd y chwyldro ddim angen is-deitla'
Achos fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill.
Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill,
Fydd y chwyldro yn hollol wreiddiol
Ac yn dod i chi yn fyw!

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar