Fy mrawd a mi yn ein gwlâu bach clyd A'r gwynt a'r glaw yn chwipio'r byd, A llygid Mam a'i gwên dawel hi A Huwcyn Cwsg sy'n gwylio ni. Nos da Mam, nos da Mam, Mi wela i chdi yn fy mreuddwyd i, Nos da Mam. Mae'r bochdew bach yn ei nyth blawd llif Yn edrach ymlaen at gael mwythau gen i, Mae'r beiciau yn y cwt, Twm y ci yn y tŷ, Toes na unman gwell na tŷ ni ar nos Sul. Nos da Mam, nos da Mam, Mi wela i chdi yn fy mreuddwyd i, Nos da Mam. ♪ Dwi'n clywad Dad yn rhoi coed ar y tân A dwi'n swatio'n dynn wedi blino'n lân. Nos da Mam, nos da Mam, Mi wela i chdi yn fy mreuddwyd i, Nos da Mam.