Kishore Kumar Hits

Steve Eaves - Ymlaen Mae Canaan şarkı sözleri

Sanatçı: Steve Eaves

albüm: Moelyci


Pan fydd popeth sy'n annwyl i chdi
Yn chwalu'n yfflon
A hen ffrindia yn cadw draw
Ymlaen mae Canaan
Pan wyt ti ar ben dy dennyn di
Yn ofni'r nôs a'i bwgan
Neu ar dy hyd yn y baw
Ymlaen mae Canaan
Dan ni gyd fel Moses gynt
Ar drywydd cyfamod
Dan ni'n chwilio ar y ffriddoedd llwm
Am lwybr i'r hafod
Mae 'na gorwynt yn dŵad ffordd hyn
Gwynt traed y meirwon
Dogger, Fisher, Finistere
Rockall, Shannon
Wel, dyma'r gwynt fydd yn chwalu'r ŷd
Dyma wynt i'ch dychryn
Ym more oes y mileniwm
Ymlaen mae Canaan

Rhyfedd fel dan ni'n dyfalbarhau
Fel mulod gwantan
Ar ôl dy drechu a dy iselhau
Ymlaen mae Canaan
Ymlaen, ymlaen
Dy anwyliaid sydd wrth y bwrdd
Yn disgwyl amdanat
Dy hen gi yn gorfadd wrth y giât
Dy swpar bron yn barod
Wel, dyro'r pac yn ôl ar dy gefn
Paid colli calon
Un filltir eto, boi
Ymlaen mae Canaan
Mae angen sgidia cry
I droedio'r uchelfannau
Ond troednoeth ydan ni
Ac ymlaen mae Canaan
Ymlaen, ymlaen

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar