Kishore Kumar Hits

Steve Eaves - Sanctaidd I Mi şarkı sözleri

Sanatçı: Steve Eaves

albüm: Ffoaduriaid


Pump oed ar drothwy'r 'Sacred Heart'
Ofn gollwng llaw fy mam
'Tyrd i ddeud Helo wrth y Chwiorydd Trugarog,
Dyro wên i'r Tad O'Brian,'
Arogldarthau ac atsain gweddi – petha' gofia i am weddill f'oes,
Fflamau canhwyllau'n dawnsio mewn rhes
Dan Iesu Grist yn ei boen ar y groes.
Ond erbyn hyn dw i wedi dwad yn bellach
I lawr yr hen lôn droellog,
A'r unig beth sy dal yn sanctaidd i mi
Ydi'r cariad distaw rhyngddom ni.
Ar y bore sul cyntaf o Chwefror eleni
Roedd 'na farrug dros y caeau i gyd
Mi wnes i wisgo 'ngwas i a'i roid yng nghefn y car
Ac i lawr i Fangor â ni
I redeg a chwerthin a chicio'i bêl
Ar gae swings Tan y Bryn
A mi 'drychais i fyny ar yr awyr las
Gan deimlo mor ddiolchgar am hyn:
Dw i wedi dod yn ddigon pell i wybod
Toes 'na ddim byd yn para'n hir:
Tad a mab neu ddau gariad law yn llaw
Mae pawb angen cyffwrdd rhywun yn y pen draw.
Ar lan yr afon dywyll, dw i'n ei dal hi'n dynn
Dan y coed a'r sêr di-ri,
Drwy ei dillad tena' mae ei chalon yn drymio
A'i bronnau yn f'erbyn i,
Mae 'na dân yn rhedeg fel trên heb ddreifar
Drwy'r gwythiennau hyn
A mae f'enaid yn deffro a hedfan i'r nos
Fel alarch yn codi o'r llyn...
Mae rhywbeth gwych am ddwad i'n rhan ni,
Mae gwyrth ar fin digwydd – dw i'n llifo ati hi fel afon i'r môr,
A mae 'na ddawns yn rhywle a sŵn gitâr...
Dw i isio cerdded efo hi,
Isio dawnsio efo hi,
Isio nofio efo hi,
Isio rhedeg efo hi.

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar