Kishore Kumar Hits

Bryn Fôn - Rebal Wicend şarkı sözleri

Sanatçı: Bryn Fôn

albüm: Dyddiau Digymar


Mae'n cyrraedd ei swyddfa yn gynnar bob bore
Yn cario ei frîffces ecsetiwtif bach
"Bore da, Mistar Eliot" a "Diolch yn fawr Rachel
A chofiwch, dim siwgwr, trio cadw yn iach"
Mae'n eistedd fel sowldiwr o flaen ei brosesydd
A phob pin a phapur a ffeil yn eu lle
Ac am bump mae o'n ol tu ol i lyw'r BMW
Yn gyrru am adre ar gyrion y dre
Bob nos wrth droi'r goriad mae'n gweiddi, "dwi adre
Sut ddiwrnod ges ti a be sy 'na i dde?"
Ac ar garreg yr aelwyd mae'i slipars yn c'nesu
Ac arogl cartref yn llenwi y lle
Ond ar nos Wenar daw adre a hongian ei siwt
A newid i'r hen denims cul
Hongian modrwyau trwy'r tyllau'n ei glustiau
A chuddio y rasal tan yn hwyr ar nos Sul
A dyna chi fo, yn rebal wicend go iawn
Oes stic-on tatw a'i dun baco herbal yn llawn
Yn rebal wicend o'i gorun i'w draed
Ac ysbryd gwrthryfel yn berwi 'mhob diferyn o'i waed
Ac ar bnawn Sadwrn mewn denims a lledar
Crys T heb lewys a'i wallt o yn saim
Mae'n mynd draw i'r dafarn i siarad a'r rocars
I yfed Jack Daniels yn lle lagyr a laim
Ac ar ol ysfed digon mae'r gitar yn dod allan
Ac mae o'n canu y blws a thrio swnio yn ddu
Son am drallodion genod ysgol yn disgwyl
Teimlo fel deryn ac ymddwyn fel ci
A dyna chi fo, yn rebal wicend go iawn
Oes stic-on tatw a'i dun baco herbal yn llawn
Yn rebal wicend o'i gorun i'w draed
Ac ysbryd gwrthryfel yn berwi 'mhob diferyn o'i waed
Amser cinio dydd Sul mae o'n ol yn y dafarn
Yn yfed ei hochor o ddeuddeg tan dri
Yn siarad yn ddwfn am genod a wisgi
A phob ystum o'i eiddo yn dweud 'ylwch fi'
Ond gyda'r nos, cyn gwylio Hel Straeon
Mae o ar goll ym mybls y bath, digon siwr
Mae'r metamorffosis drosodd am wythnos fach arall
Pan mae'r rebal yn mynd lawr y plyg gyda'r dwr
A dyna chi fo, yn rebal wicend go iawn
Oes stic-on tatw a'i dun baco herbal yn llawn
Yn rebal wicend o'i gorun i'w draed
Ac ysbryd gwrthryfel yn berwi 'mhob diferyn o'i waed
Ac ar fore dydd Llun mae o'n ol yn y swyddfa
A'r cris yn ei drowses yn finiog fel bled
Mae'r rebal wicend yn edrych o'i gwmpas
Ac yn sylweddoli ei fod oyn mêd

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar