Rhwng y môr a'r mynydd ymhell, bell yn ôl Ar noson braf yn y gwanwyn, Ma'r hogia' ar y sgwâr yn eu sgidia' rock and roll A bys Pwllheli ar gychwyn. Daw'r goleuadau ymlaen fesul un, Mae'n glyd ym mar cefn y Royal, Dwi'n gweld yn glir lawr y llwybr hir I strydoedd Aberstalwm, Amser maith yn ôl. Daw Johnny Paul Papura i agor ei siop, A corn y ffatri yn canu, Elvis ar y weirles a'r plant yn dal y trên A gwlith y nos yn diflannu. Ac wrth i weithwyr y nos hel eu pac Am adra a panad a gwely, Ma' sŵn 'u traed yn cyflymu'r gwaed Ar strydoedd Aberstalwm, Amser maith yn ôl. Ma' bloda' mân y morfa yn gwyro yn y gwynt, A chân y curlew yn cario, I lawr at Ynys Fach lle ma' plant o Adwy Ddu Yn hela lledod a nofio. Ma'r garrag atab yng nghysgod y Gwaith Yn chwyddo a chwara' a chwerthin, Dyddia' hir dan yr awyr glir Ar draethau Aberstalwm, Amser maith yn ôl. Caneuon roc a motown ar y jiwcbocs yn caff A blas y mŵg yn y coffi, Lle ma' Cliff a Rich a Sheila a Janice yn ca'l laff, A neb yn poeni am yfory. Ma' Duw yn byw yn y capal ar y rhiw A'r Diafol ym mar cefn y Royal, A hogia' ni yn eu lledar du Ar strydoedd Aberstalwm, Amser maith yn ôl, Amser maith yn ôl.