Yn un naw un saith yn Nhrawsfynydd Sir Feirionnydd Roedd Ellis Humphrey Evans yn bugeilio ar y mynydd Roedd o'n dipyn o fardd, caru merch hardd o'r fro A swn'r hen afon Prysor o'dd yr awen iddo fo Ond ar fore oer o Chwefror daeth dyn o'r orfodaeth at y ffarm Ac yn erbyn ei ewyllys a parch at hen bob bach I ryfel oedd rhaid mynd bob un cam Felly 'ffwrdd a fo i Lerpwl i ymuno a'r battalion Hyfforddi fo i ymladd ac mewn sut i ddal gwn Ac oedd o allan o'i gynefin; allan o'i fro Ond roedd cadw pen ar bapur yn rhoi rhyddid iddo fo A cas oedd y swyddogion, ar sarjant yn gweddi yn ei glyst Am farddoni'n iaith y nefoedd Er yr holl anhegwch, ei awen oedd yn gryf a Duw ei dyst Felly penna fyny hogia dachi'n barod ac yn iach I hwylio i wlad arall a chwffio dros eich gwlad Mae'r gynna yn eich dwylo ac mae'r gelyn ochr draw Peidiwch a chynhyrfu, Gewchi fedal yn eich llaw Dydd olaf o Orffennaf ac mae'r hogiau yn y ffosydd Yn galw emosiynnau a hiraeth yn y pridd Mae'r brwydyr ar fi'n cychwyn, brwydyr mwya'r byd Be ddaw o hyn? gofynwyd; rhy hwyr mae rhaid ni fynd! A Mewn a nhw i'r hunllef O ffrwydriadau, mwg, a gunnau gwyllt Lle lladdwyd Ellis Evans Kap yn ei fol, mae'n colli gwaed yn sydyn, neb yn disgwl, ble mae'r cymorth? Ac mae pawb yn symyd ymlaen Ac ynno ar ei liniau yn ei ddyrnau dim ond pridd Meddyliodd am ei gartef yn Nhrawsfynydd Sir Feirionydd Mi glywodd ddim yr arfau, na swn y tanciau trwm Dim ond swn yr afon Prysor yn Canu yn y Cwm