Kishore Kumar Hits

Mim Twm Llai - Tafarn Yn Nolrhedyn şarkı sözleri

Sanatçı: Mim Twm Llai

albüm: Goreuon


Pentra bach ychal, mae o'n uwch na Llan
Lle ma dŵr y mynydd yn canu i'r llyn
Ac yn yr ha' maen nhw'n cau y dam
Y mama' yn padlo a'r plant yn nofio
Pentra bach distaw, sdim digon o sŵn
Ma'r nytars i gyd yn neidio Llyn Cŵn
Ac uwch ar y creigia ma'r dringwyr i gyd
Hefo'u rhaffau glas a'u caribinas
Ond be does na ddim ydi tafarn yn fan hyn
Sa na dafarn yn fan hyn sa fo'n booming
Felly be da ni angan ydi tafarn yn Nolrhedyn
La la la la
Fysa'r lle ma'n gwneud pryda, 'sa'r lle ma'n g'neud tân
Hen foi yn y gornal yn canu rhyw gân
A digon o le i'r band roi eu stwff
A chwara miwsig i gyfeiliant y ffisig
Sa'r lle ma'n llawn merchad, ond dim rai rhy hen
Yn gwenu a mwydro, rhoi gwen ar pob gên
A wedi 'ti fachu ti'n gwrthod lock in
Ma'r lle ma'n rhy boeth - awn ni i nofio yn noeth
Ond be does na ddim ydi tafarn yn fan hyn
Sa na dafarn yn fan hyn sa fo'n booming
Felly be da ni angan ydi tafarn yn Nolrhedyn
La la la la
Ond be does na ddim ydi tafarn yn fan hyn
Sa na dafarn yn fan hyn sa fo'n booming
Felly be da ni angan
Felly be da ni angan
Felly be da ni angan ydi tafarn yn Nolrhedyn
La la la la

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar