Sut wyt ti? Dywed sut wyt ti yn awr? Sgen ti ddau funud i'w sbario i mi? Sut ydw i'n mynd i'th gadw i mi fy hun? Rhaid i rywun neud rhywbeth amdanom ni Wel fi ydi'r oen wrth yr allor A dwi'n unig heb unman gen i i ffoi Ac mae pethe yn poethi heno Dim digon o amser, cymaint gen i i'w roi... Cymer fi, achub fi, cymer fi yn gyfan a'nghymryd i'r seithfed ne' Cymer fi, achub fi, dal fi'n agos cariad, a dal yr hualau yn dynn Sut wyt ti? Dywed sut wyt ti erbyn hyn? Wyt ti'n dechrau difaru dy enaid nawr? Sut ydwi'n mynd i'th gadw i mi fy hun? Ma hi, ma hi mor anodd cadw draw Ma ofn yn meddiannu heno Dwi ofn yn tywyllwch, heb unman i ffoi A dwi iso mynd 'nol i' mhlentyndod Tyrd yn ol i'n amddiffyn, rho'r cyfan sy gen ti i roi...