O, allai ddim g'neud mwy tra ma'r dyddia' 'di malu, Dwi'n dechra' teimlo'n frau, teimlo'n hunan yn torri. Uwchben y llestri bron bob dydd, Tyfu'n ddwl wrth ddisgw'l am ddim byd. Dwi jest yn meddwl fod 'y nghroen i'n meddalu, Wrth sbio 'r y stryd drwy y crac yn y llenni. Jest gad 'mi gael fy ngwên, gad i mi gael ias, O glywad bod gras yn ein gwaed ni hyd. Os ti'n gallu gweld lle mae'r graith ar 'i gwaetha', Gei di fyw fel tasa hi'm yna. Ti'n d'eud ei fod o'n hawdd, ond 'dio ddim i mi, Tydi o ddim i mi. Paid d'eud mod i mor ddrwg â hynny, Paid d'eud mod i mor ddrwg. Dwi'm yn teimlo'n unig tra ma'r strydoedd yn llifo Dros ein cyrff llonydd ni; melyn, du, wedyn heibio. Dim heno ma' hi'n troi a throsi eto, 'I theimlo hi'n gorfadd rhy boeth yn ei chwsg. Rhy ddiog i helpu; dwi 'di mynd, dwi 'di torri. Ma'r byd lawr y lôn, ond ma'r teledu'n y gwely. Mwy o lwch dan 'y nghroen i bob dydd, Tyfu'n ddwl wrth ddisgw'l am ddim byd. Wyt ti'n gallu gweld sut y gall rhywun flino Ar weld ei hun fel bob un fu o'i flaen o? Dwi angen gw'bod bod 'na r'wbath ar ôl, 'Chos dwi'n meddwl bod 'na r'wbath ar ôl. Paid d'eud mod i mor ddrwg â hynny, Paid d'eud mod i mor ddrwg.