Kishore Kumar Hits

big leaves - Meillionen şarkı sözleri

Sanatçı: big leaves

albüm: Pwy Sy'N Galw?


Yng nghanol y dant y llew
Ac o gwmpas y glesni daw
Gwas y neidr a'i gân sydd wrth law,
Pwyntiodd at lecyn da
Lle cuddia planhigyn bach
Ac efo pedair adenydd yn ei law,
Y feillionen sydd fan draw.
Wyt ti dal ar dir y byw?
Rhaid 'mi dd'eud, dwi'n drwm fy nghlyw!
Wyt ti dal ar dir y byw?
Wyt ti dal yn credu mewn Duw?
Gofalus rhwng bys a bawd,
Codais fy lwcus frawd,
'I ddal o'n sownd uwch fy mhen i'r nen,
Ac o bŵer y ddeilen brin,
Llawennydd a lenwa 'mron,
Ac efo pedair adennydd yn ei law,
Y feillionen sydd fan draw.
Wyt ti dal ar dir y byw?
Rhaid 'mi dd'eud, dwi'n drwm fy nghlyw!
Wyt ti dal ar dir y byw?
Wyt ti dal yn credu mewn Duw?
Meillionen, tyrd â lwc i mi!
Meillionen, tyrd â lwc i mi!
Wyt ti dal ar dir y byw?
Rhaid 'mi dd'eud, dwi'n drwm fy nghlyw!
Wyt ti dal ar dir y byw?
Wyt ti dal yn credu mewn Duw?
Meillionen, tyrd â lwc i mi - y ddeilen hud!
Meillionen, tyrd â lwc i mi - y ddeilen hud!
Meillionen, tyrd â lwc i mi - y ddeilen hud!
Meillionen, tyrd â lwc i mi - y ddeilen hud!
Meillionen, tyrd â lwc i mi!

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar