Kishore Kumar Hits

Casi Wyn - Tywyll Heno şarkı sözleri

Sanatçı: Casi Wyn

albüm: 1


Ei enaid yn gleisiau
A'i feddwl yn friwiau
Ac er mor olau yw'r awyr
Mae o'n dywyll ei feddyliau
Mor fregus ei gamau, ansicr ei eiriau
Mor uchel yw'r lleisiau sy'n llenwi ei ben
Does dim yma heno ond un aeth yn angof
A'r cyfan mae hi'n adael yw eiliad o atgof
Mae tyllau mawr yn ei galon
A'r cariad sy'n dianc fel afon
Mae pawb sy' wedi trio wedi methu
Unigedd fydd ei dynged gan hynny
Mor fregus ei gamau, ansicr ei eiriau
Mor uchel yw'r lleisiau sy'n llenwi ei ben
Does dim yma heno ond un aeth yn angof
A'r cyfan mae hi'n adael yw eiliad o atgof
Ac mae'r llais yng nghefn dy ben
Yn dy berswadio di
I ddifaru
Galaru am bopeth
Am bopeth na fu
Mor fregus ei gamau, ansicr ei eiriau
Mor uchel yw'r lleisiau sy'n llenwi ei ben
Does dim yma heno ond un aeth yn angof
A'r cyfan mae hi'n adael yw eiliad o atgof

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar