Kishore Kumar Hits

Carreg Lafar - Aberhonddu şarkı sözleri

Sanatçı: Carreg Lafar

albüm: Hyn


Clywai'r tabwrdd efo'r chiwban,
'Nawr yn datgan 'Tôn y Cam',
Daeth y diwrnod, byddych barod,
Rhaid ymado â gwlad eich mam;
De'wch bob dynyn, rhaid yw cychwyn,
A chyn bo terfyn ar ein taith,
Ni gawn deithio hir filldiroedd
Dros y tir a'r moroedd maith.
Trwm yw'r newydd, tra mawr niwed,
Rhaid yw myned, dyma'r modd;
Gado bryniau gwlad ein tadau,
Oer yw'r geiriau iw'r rhoi ar go'dd;
Gado Cymru, ardal wiwgu,
Fwyn lle darfu i'n gael ein bod,
Aí thrigolion hylon haeledd,
Llawn o rinwedd llon erio'd.
Nid oes gwyned 'nawr â gwenau,
Oer yw'r geiriau, dagrau gwr,
Ansirioldeb ydw'r nodeb
Sydd ar wyneb pob rhyw wr;
Rhaid yw gadael 'nawr y lwysdref,
Lle bu'n cartref flwyddyn bron,
Tref careiddlu, ynghanol Cymru,
Aberhonddu lwysgu lon.
Dacw fwg y dre'n diflanu,
Dacw'r teiau, muriau mawr;
Yn ymddangos, (olwg decaf),
Y tro diweddaf inni 'nawr;
Dacw'r Arfdy^ lle bu'n llety,
Dacw'r gloch-dy^ Eglwys Fair,
Ac ar ei ben ef geiliog amlwg,
Yn cilio o'n golwg gydâ'r gair.
Dacw'r Banau, brenin bryniau,
Yn dal ei wenau uwch y dref;
Ond yn fuan, dyma'r cwynfan,
Mwy 'chawn wel'd mo honaw ef;
Rhaid in' bellach, rhaid in' bellach,
Ganu'n iach, er cwyno'r hir;
Ac o'm cwynion a'm hoch'neidion,
Cleddir fi mewn estron dir. (^after y means it should sit on top of the previous letter)

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar