Kishore Kumar Hits

Cerys Hafana - Hen Garol Haf şarkı sözleri

Sanatçı: Cerys Hafana

albüm: Edyf


Mab wy'n chwennych yn fy chwen
I ganu pennill mwyn o'm pen
Ac os cerwch chwi hawddgarwch
Byth na syniwch roi i mi sen
Nôl fy neall canu wnaf
Glyd eiriau'n rhwydd o glod i'r Haf
Wrth ei weled mor hawddgarol
Ei liw ar led, bro euraidd braf
Dolydd a gyweirglodd-dir clau
Eu gweld yn rhywdd a gaiff pob rhai
Tan fargodion glennydd gloywon
Mor hyfrydlon meillion Mai
Llysiau, llafur, graendir, grawn
Ffrwyth ar goedydd bronwydd brawn
Rhos a lili, lanwych lwyni
A fyddant felly'n llenwi'n llawn
Bydd yr adar yn y gwydd
Gydag agor tor y dydd
Yn ei roeso gan ymbincio
Ceir eu gweled wrth rodio'n rhydd
Fe ddaw'r gog a'r ceiliog du
Y fronfraith gron a'i chywion cu
A Philomela i'r fro hyfryda
A'u llais llawena, llona llu

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar