Mi roeddwn i fy hun rhiw ddiwrnod Ffol di rol rai am dadl am do Mynd i ymweld a phobl yr Hafod Ffol di rol rai am dadl am do Torth o fara oedd gen i'n bresant FFol di rol didl am dadl am do Ddygaswn innau'n ddigon desant Ffol di rol rai am dadl am do. Pan ddes i'n gyntaf i goed y rhywiau Ffol di rol rai ayb. Syrthio a'wnais, ie ar fy nglynniau Ffol di rol rai ayb. Syrthio a wnaeth y dorth yn union Ffol di rol didl ayb. A dechrau bowlio i lawr i'r afon Ffol di rol rai ayb. Doedd dim iws imi mo'r bloeddio, Na gofyn i'r dorth a wnaiff hi stopio; Bowlio roedd a mynd mor handi Mi ganais innau ffarwel iddi. Mi welais fowryn Robat Seimon, Llyfnu roedd tu draw i'r afon. Doedd dim ffordd ei hestyn i mi Drwy fasiwn dwr a drain a drysnu. Es i fan honno dros fy 'sgidiau, Disgwyl gweld y dorth yn dipio. Diolch byth mi rown i'n canu: Nid brwsionnyn ddaeth ohoni.