Dawel nos, Sanctaidd yw'r Nos; Cwsg a gerdd waun a rhos, Eto'n effro mae Joseff a Mair, Faban annwyl ynghwsg yn y Gwair, Cwsg mewn gwynfyd a hedd, Cwsg mewn gwynfyd a hedd. Dawel nos, Sanctaidd yw'r Nos; Wele fry seren dlos. Daw'r bugeiliaid a'r doethion I'r drws, Faban annwyl, yr wyt Ti mor Dlws, Cwsg mewn gwynfyd a hedd, Cwsg mewn gwynfyd a hedd. Tawel nos dros y byd, Sanctaidd nos gylch y crud; Gwylio'n dirion yr oedd Addfwyn ddau, Faban Duw gyda'r llygaid bach Cau, Iesu T'wysog ein hedd. Iesu T'wysog ein hedd.