Kishore Kumar Hits

Bwncath - Haws i'w Ddweud şarkı sözleri

Sanatçı: Bwncath

albüm: Bwncath II


'Dw i 'di ista yng ngwaelod pydew du fy nghalon i
Yn syllu lle bu'r goelcerth gynt yn llosgi
A'r hyn o goed oedd gen i ar ôl
'Di gwlychu yn y stormydd
A'r rheiny yn ailgychwyn yn dragywydd
'Dw i 'di treulio oria' maith yn ceisio cynna'r tân
Heb ddim ond dagrau poeth o wreichion mân
Ond chdi ddoth draw fel haul 'rôl glaw
A sychu wnaeth y coed
A'r tân sy'n llosgi fwy na 'rioed
Ond mae'n haws i'w ddweud nac ydi o'i wneud
I afael yn dy law
A'r gwyntoedd sy'n fy erbyn i
Yn chwythu yma a thraw
Ma' 'na dywydd gwell ar y gorwel pell
Tu hwnt i'r gwynt a'r glaw
Dy ola' sy'n fy arwain i
I'r dyddia' gwyn a ddaw
O'n i'n teimlo weithia' mod i'n dechra' colli ffydd
A hynny yn dibynnu ar y tywydd
Ond chdi ddoth draw fel haul 'rôl glaw
A sychu wnaeth y coed
A'r tân sy'n llosgi'n fwy na'r 'rioed
Ond mae'n haws i'w ddweud nac ydi o'i wneud
I afael yn dy law
A'r gwyntoedd sy'n fy erbyn i
Yn chwythu yma a thraw
Ma' 'na dywydd gwell ar y gorwel pell
Tu hwnt i'r gwynt a'r glaw
Dy ola' sy'n fy arwain i
I'r dyddia' gwyn a ddaw
Ond mae'n haws i'w ddweud nac ydi o'i wneud
I afael yn dy law
A'r gwyntoedd sy'n fy erbyn i
Yn chwythu yma a thraw
Ma' 'na dywydd gwell ar y gorwel pell
Tu hwnt i'r gwynt a'r glaw
Dy ola' sy'n fy arwain i
I'r dyddia' gwyn a ddaw
Dy ola' sy'n fy arwain i
I'r dyddia' gwyn a ddaw

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar