Trwy y mŵg Bron a drysu â'r holl sŵn Cyd-ddigwyddiad llwyr bod yma yr un pryd Fel hyn mae Dwi'n cytuno i rannu'r baich Rhaid derbyn bod rhai petha'n gorfod bod A weithiau wrth 'mi edrych ar dy wyneb dwi'm yn saff os dwi'n mynd ta dod A weithiau wrth 'mi sbïo'n y drych dwi ddim yn nabod fy hun Cuddio'r graith Ma'n rhaid bo'r gwin na'n neud ei waith Sut deimlad di o bod allan o dy ben? Ti ar y brig A fedra i ddim bod yn is Ond i leia ydw i'n fodlon talu'r pris A weithiau ydw i'n teimlo fel y galla i ddim cario mlaen ddim mwy A weithiau ydw i'n teimlo fel dwi'n taro mhen yn erbyn wal 'Chos ti ddim ar gael Hei! Ar gael Ti fel y wennol yn diflannu tua'r haul Mi wn yn iawn Hei! Bod dy law Fel y wennol ddim ar gael Di dysgu'r wers O sut i fod yn unrhyw beth Ac wedyn ti di droi o ar ei ben Yn ara bach Ma'r holl beth yn troi yn strach Dwi'm angen cael y cyfrifoldeb ma A weithiau yn dy gwmni fydda i'n teimlo mod i'n cerdded ar y dŵr A weithiau ydw i'n teimlo fel bo petha'n mynd o ddrwg i waeth 'Chos ti ddim ar gael Hei! Ar gael Ti fel y wennol yn diflannu tua'r haul Mi wn yn iawn Hei! Bod dy law Fel y wennol ddim ar gael ♪ Hei! Ar gael Ti fel y wennol yn diflannu tua'r haul Mi wn yn iawn Hei! Bod dy law Fel y wennol ddim ar gael