Gadael Abertawe Gyrru fel ffŵl Rhywbeth wedi digwydd nawr Methu cadw cŵl Mor ddistaw yn y dre Gweiddi yn fy sedd Dylwn wbod gwell na mynd i ganol pethe dwl Syth drw sgwar Dyfatty Cymryd hewl y Cwm Sbardun ar y llawr yn awr Dechre plygu'n grwm San Pedr Pontardawe yn oren yn y niwl A'r lôn yn llifo tano'i Y car yn canu Duw Ces i nghodi yn y capel ar aer yr ysgol Sul A wi'n canu'r hen emyne bob cyfle rownd y ril Dim yn ddyn crefyddol Angen rhywun ar fy ngwir Nawr, Hosanna! Iesu rho dy law ar fy mhen Wi'n credu mod i'n mynd Wi'n credu mod i'n mynd Munud ar ôl Ystrad, cyrraedd Craig y Nos Llyged ar y troeon bum yn trafod gydol oes Rhwbeth yn y gwrych, rhywun estron yn y drych A rhwng y ddau ma'r olwyn 'tae yn tynnu am y ffos Ces i nghodi yn y capel ar aer yr ysgol Sul A wi'n canu'r hen emyne bob cyfle rownd y ril Falle fydd e'n ddigon pan ddaw hi ar y du Nawr, Hosanna! Iesu rho dy law ar fy mhen Wi'n credu mod i'n mynd Wi wedu colli 'nghrefydd ond dal i ddisgwyl Duw Ac mae gen i bwt o hunan barch i fywyd fynd ar sgiw Nawr, a nawr wi'n gadel m'angen rhywun wrth y llyw Nawr, Hosanna! Iesu rho dy law ar fy mhen Wi'n meddwl mod i'n mynd Wi'n meddwl mod i'n mynd Wi'n meddwl mod i'n mynd