Wel shwd mae yr hen frind? Mae'n braf cael dy weld di gartref fel hyn. Dyn ni ddim wedi cwrdd, Ers I ti hel dy bac A rhedeg I ffwrdd A rwy'n cofio nawr O ni'n meddwl bo ni'n fechgyn mawr Cerdded gyda'n tadau Y llwybr hir ir pylle O_____ la la la la 'Sneb yn sicr o'r gwir Pa'am I ti fynd, a thorri'r mor glir Mae rhai wedi son Fod y cwm yn rhy gul I fachgen fel Sion Wyt ti'n cofio'r tro? Ar lethre'r glo Sgathru'r I'n gliniau Wrth ddringo am y gorau O_____ la la la la CYTGAN Y graig yn sownd o dan ein traed A chariad at y cwm yn berwi yn ein gwaed Y craig yn swndo dan ein traed A chariad at y cwm yn berwi yn ein gwaed O fe fu newid mawr Ers iddi nhw gau yr holl bylle na lawr Fel y gweli di hun Does dim nawr I ddal y bois rhag y ffin A pethe wedi magu blas Am rhagor o awyr las Ond rwy'n credu taw ti oedd y cyntaf I weld Y tywydd ar ein gorwel O la la la la CYTGAN