Kishore Kumar Hits

Brigyn - Haleliwia şarkı sözleri

Sanatçı: Brigyn

albüm: Lloer


Mewn dwrn o ddur mae'r seren wen
Mae cysgod gwn tros Bethlehem
Dim angel gwyn yn canu Haleliwia.
Codi muriau, cau y pyrth
Troi eu cefn ar werth y wyrth
Mor ddu yw'r nos ar strydoedd Palesteina.
Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.
Mae weiran bigog gylch y crud
A chraith lle bu creawdwr byd
Mae gobaith yno'n wylo ar ei glinia'
A ninnau'n euog bob yr un
Yn dal ei gôt i wylio'r dyn
Yn chwalu pob un hoel o Haleliwia.
Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.
Mae'r nos yn ddu mae'r nos yn hir
Ond mae na rai sy'n gweld y gwir
Yn gwybod fod y neges mwy na geiria'
Mai o'r tywyllwch ddaw y wawr
A miwsig ddaeth â'r muriau lawr
Daw awr i ninnau ganu Haleliwia.
Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar