Titrwm, tatrwm, gwen lliw'r wy Lliw'r meillion mwy rwy'n curo Mae'r gwynt yn oer oddi ar y llyn O flodyn y dyffryn deffro Chwyth y tân, mi gynnith toc Mae hi'n ddrycinog heno Os ymhell o'm gwlad yr af Pa beth a wnaf a'm geneth? Pa run a'i mynd a hi efo mi Ai gadael hi mewn hiraeth? Hedd fy nghalon o bob man I fryniau a phantiau Pentraeth Weithiau'n Llundain, weithiau yng Nghaer Yn gweithio'n daer amdani Weithiau yn gwasgu fy mun mewn cell Ac weithiau ymhell oddi wrthi Mi gofleidiwn flodau'r rhos Pe bawn i'n agos ati Titrwm, tatrwm, gwen lliw'r wy Lliw'r meillion mwy rwy'n curo Mae'r gwynt yn oer oddi ar y llyn O flodyn y dyffryn deffro Chwyth y tân, mi gynnith toc Mae hi'n ddrycinog heno