Kishore Kumar Hits

The Gentle Good - Llosgi Pontydd şarkı sözleri

Sanatçı: The Gentle Good

albüm: Tethered for the Storm


Mae'r coed yn sythu yn eu seddi ger y llyn
A'r dŵr fel drych yn adlewyrchu bore gwyn
Ond yn fy nwrn dwi'n dala'r garreg oer yn dynn
O weithiau mae ffawd yn cynnig llaw fel hyn
Breuddwydiais sgubor bren llawn rhyfeddodau'r byd
Holl drysor dynol ryw o fewn ei waliau clud
Breuddwydiais arw wynt yn siglo'r to fel crud
O weithiau mae'r llaid dan fy nhraed yn llwch i gyd
Ohhh-oh-ohh-oh-ohhh
Ohhh-ohhh-ohhhh-oh-ohh-oh-ohhh
Ohhh-oh-ohh-oh-ohhh
Ohhh-ohhh-ohhh-oh-ohh-oh-ohhh
O weithiau mae'r llaid dan fy nhraed yn llwch i gyd
Fe glywais swynol gan ar awel lan y nos
Yr Eos ber yn canu ar ei chlwyd gyfagos
Fe glywais wichian y dylluan ar y rhos
O weithiau bydd sgrech yn drech i'r alaw dlos
Fe welais rosyn coch yn ddel ymysg y drain
Estynnais law i afael yn y coesyn main
Ac wedi'r pigo roedd y gwir i mi mor blaen
O weithiau mae rhaid sarnu gwaed cyn symud 'mlaen
Ohhh-oh-ohh-oh-ohhh
Ohhh-ohhh-ohhhh-oh-ohh-oh-ohhh
Ohhh-oh-ohh-oh-ohhh
Ohhh-ohhh-ohhh-oh-ohh-oh-ohhh
O weithiau mae rhaid sarnu gwaed cyn symud 'mlaen
O weithiau mae rhaid sarnu gwaed cyn symud 'mlaen

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar