Aderyn pur a'r adain las, bydd i mi'n was dibryder O brysur brysia at y ferch lle rhoes i'm serch yn gynnar Dos di ati, dywed wrthi, 'mod i'n wylo dŵr yr heli 'Mod i'n irad am ei gwelad, ac o'i chariad yn ffaelu â cherdded O Dduw faddeuo'r hardd ei llun am boeni dyn mor galed Pan o'wn i'n hoenus iawn fy hwyl, ddiwrnod gŵyl yn gwylio Canfyddwn fenyw lana 'rioed, ar ysgafn droed yn rhodio Pan ei gwelais, syth mi sefais, yn fy nghalon mi feddyliais Dyma ddynas lana'r deyrnas, a'i gwên yn harddu pawb o'i chwmpas Ni fynswn gredu'r un dyn byw nad oedd hi rhyw angyles.