Bu'r Cymro yn cerdded y llwybrau cynefin drwy'r oesau, Yn crafu bywoliaeth ddigysur ar gaenen o dir, Yn gwarchod ei fywyd wrth warchod y noethlymun erwau, Wrth ganlyn yr arad a dilyn yr og ar y ffridd. Dringodd y creigiau a holltodd y llethfaen yn gywrain, Tiriodd i grombil y ddaear i geibio'r glo, Gwnaeth gyfoeth i eraill a gwelodd gyfeillion yn gelain, A chyfoeth 'rhen ffydd a 'rhen eiriau oedd ei gyfoeth o. Ond Cerddwn Ymlaen, Cerddwn drwy ddwr a than, Cerddwn a ffydd yn ein can, ymlaen. A Cherddwn Ymlaen, Cerddwn drwy ddwr a than, Cerddwn a ffydd yn ein can, ymlaen, Cerddwn Ymlaen. Bu farw Llywelyn, Llyw olaf y Cymry'n Nghilmeri, Saith canrif yn ol ar yr eira diferodd ei waed, Ar bicell fe gariwyd ei ben ar hyd hewlydd Llundain, A'r dorf yn crochlefain i ddathlu'r fuddugoliaeth a gaed. Saith canrif o ormest caethiwed a gafwyd ers hynny, Saith canrif o frwydro a dioddef dan gyfraith y Sais, Ond er dichell bob bradwr a chynllwyn pob taeog a chachgi, Mae'r Cymry ar gerdded a'r bobl yn codi eu llais.