Kishore Kumar Hits

Dafydd Iwan - Ai Am Fod Haul Yn Machlud şarkı sözleri

Sanatçı: Dafydd Iwan

albüm: Cana Dy Gan Vol 4


Ai am fod haul yn machlud
Mae deigryn yn llosgi fy ngrudd?
Neu ai am fod nos yn bygwth
Rhoi terfyn ar antur y dydd?
Neu ai am fod côr y goedwig
Yn distewi a mynd yn fud?
Neu ai am i rywun fy ngadael
Rwyf innau mor unig fy myd?
Ai am fod golau'r lleuad
Yn oer ar ruddiau'r nos?
Neu ai am fod oerwynt gerwin
Yn cwyno uwch manwellt y rhos?
Neu ai am fod cri'r gylfinir
Yn distewi a mynd yn fud?
Neu ai am i rywun fy ngadael
Rwyf innau mor dywyll fy myd?
Ond os yw yr haul wedi machlud
Mae gobaith yng ngolau'r lloer,
A chysgod yn nwfn y cysgodion
I'm cadw rhag y gwyntoedd oer,
Ac os aeth cri'r gylfinir
Yn un â'r distawrwydd mawr,
Mi wn y daw rhywun i gadw
Yr oed cyn toriad y wawr.

Поcмотреть все песни артиста

Sanatçının diğer albümleri

Benzer Sanatçılar